Cofnod o Gyfarfod Grŵp Trawsbleidiol Gogledd Cymru yn Senedd Cymru

Dydd Iau 19 Mai 2022

Yn bresennol 

Aelodau’r Senedd:

Mark Isherwood AoS, (yn Gadeirydd), Llyr Gruffydd AoS, Ken Skates AoS, Gareth Davies AoS, Dan Rose (ar ran Carolyn Thomas AoS)

Aelodau Senedd San Steffan:

Liz Saville-Roberts AS a Rob Roberts AS

Arweinwyr Awdurdodau Lleol

Y Cynghorydd Charlie McCoubrey

Swyddogion

Stephen Jones (CLlLC) Ysgrifennydd a Chris Llewelyn (CLlLC), Prif Weithredwr a Chynrychiolydd Noddwr, Bryn Richards, Llywodraeth Cymru a Lee Robinson, Trafnidiaeth Cymru.

Siaradwr:

Lesley Griffiths, AoS Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd

Croeso’r Cadeirydd

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod a drefnwyd i alluogi aelodau i rannu blaenoriaethau cyffredin gyda Lesley Griffiths AoS, Gweinidog Gogledd Cymru.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2021.

Gofynnodd y Cadeirydd bod cofnodion y cyfarfod yn cael eu cytuno, ar ôl iddynt gael eu dosbarthu'n flaenorol heb anghydweld.  Gofynnodd y Cadeirydd i’r Ysgrifennydd ddosbarthu’r cofnodion eto i alluogi unrhyw aelod o’r grŵp nad oedd yn bresennol i awgrymu diwygiadau.

Sylwadau Gweinidog Gogledd Cymru

Siaradodd Lesley Griffiths yn fyr am rôl Gweinidog Gogledd Cymru (GGC).

 

Crëwyd y rôl yn nhymor y Senedd diwethaf a Ken Skates AoS oedd y Gweinidog bryd hynny. Gall GGC ystyried unrhyw fater sy’n berthnasol i Ogledd Cymru, sy’n arwain at drafodaeth aml gyda Gweinidogion eraill am faterion penodol yng Ngogledd Cymru e.e. BIPBC a datblygu asedau ynni.

 

Mae GGC yn cadeirio cyfarfodydd Pwyllgor Cabinet Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru yn rheolaidd ac mae Arweinwyr Cynghorau yn bresennol yn y cyfarfodydd.

 

Mae Cabinet y Pwyllgor yn trafod materion penodol, yn derbyn sylwadau e.e. Metro Gogledd Cymru, BIPBC, Chwaraeon Cymru a chefnogaeth ar gyfer y sector bwyd a diod.  Mae’n galluogi Arweinwyr Cynghorau i siarad am faterion pwysig yng Ngogledd Cymru gyda’r Cabinet cyfan.  Mae swyddogion LlC a Chynghorwyr Arbennig yn mynychu’r cyfarfod hefyd.

 

Mae gan y Gweinidog lwyth o brofiad gweinidogol blaenorol ar gyfer Rôl Gweinidog Gogledd Cymru.  Y blaenoriaethau presennol yw bwrw ymlaen â buddsoddiadau a thwf mewn:

·         Ynni Carbon Isel

·         Bwyd a Diod

·         Twristiaeth

 

Mae Gweinidog Gogledd Cymru wedi cyfarfod â Meiri Dinas-ranbarthau Lerpwl a Manceinion er mwyn meithrin cysylltiadau economaidd i fod o fudd i Ogledd Cymru o ran ynni (e.e. hydrogen, niwclear a gwynt ar y môr).

 

Yn rhan o’i phortffolio Materion Gwledig, mae Gweinidog Gogledd Cymru yn edrych ar gyfleoedd ar ôl Brexit ar gyfer y sector bwyd a diod yng Ngogledd Cymru. 

Trafodaeth

Ynni

Trafodwyd pwysigrwydd y sector ynni i Ogledd Cymru gan enwi prosiectau ynni y gallai pawb eu cefnogi:-

Llif y Llanw

·         Morlais

Hydrogen gwyrdd

·         Canolbwynt Hydrogen Menter Môn/Caergybi

·         Canolbwynt Hydrogen Gogledd Cymru (Gogledd Ddwyrain Cymru)

Niwclear

·         Adweithyddion Bach Modiwlaidd yn Nhrawsfynydd

·         Wylfa

Gwynt ar y môr

·         Ymestyn capasiti presennol (Mona a Morgan)

·         Y Môr Celtaidd gyda Llywodraeth Iwerddon - Mae Llywodraethau Cymru ac Iwerddon wedi cytuno i ddilyn datblygiad capasiti tyrbinau gwynt sydd yn arnofio.

Clystyrau Diwydiannol/Hydrogen CCUS

·         Consortiwm Hynet gydag aelodau/defnyddwyr yng Ngogledd Cymru (e.e. Hanson Cement)

 

Rhyngweithio gyda Gweinidogion

Dywedodd Llyr Gruffydd AoS ei fod yn amheus o rôl Gweinidog Gogledd Cymru i ddechrau gan fod pob Gweinidog yn “Weinidog ar gyfer Gogledd Cymru” drwy eu gwaith o ddatblygu polisi a goruchwylio  darparu gwasanaeth.

 

Gofynnodd faint oedd y rôl fod i “arwain” Gweinidogion eraill ac a oedd y rôl wedi gwneud unrhyw wahaniaeth?

 

Dywedodd y Gweinidog nad ydi GGC yn arwain ar ffurfio polisi ond mae’n cael gwybod am ddatblygiadau sy’n ymwneud â Gogledd Cymru.  Mae hyn yn galluogi GGC i gynghori a chefnogi materion penodol fel Metro Gogledd Cymru a BIPBC.

 

Mae Gweinidog Gogledd Cymru yn cynnal nifer o gyfarfodydd gyda Gweinidogion eraill i ddweud sut mae mesurau a chynigion LlC yn cael eu hystyried yng Ngogledd Cymru, lle mae canfyddiad o fod yn bell o Gaerdydd ac nad yw Gogledd Cymru yn cael cyfran deg bob amser o fuddsoddiad yng Nghymru.  Mae GGC yn gweithio i wella’r canfyddiad hwnnw.

Mae Arweinwyr Cynghorau yn chwarae rôl wrth ddod a Gogledd Cymru a Chaerdydd yn agosach drwy fynychu Pwyllgor Cabinet i wneud sylwadau ar ran eu cymunedau a cheisio dylanwadu ar bolisi LlC er budd Gogledd Cymru.

 

Mae Pencadlys Banc Datblygu Cymru yn Wrecsam a Metro Gogledd Cymru yn gyflawniadau penodol lle mae Gweinidog Gogledd Cymru wedi gwneud gwahaniaeth.

 

Yn y weinyddiaeth hon mae’r rôl wedi helpu’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddelio â phwysau diweddar ar BIPBC.

 

Twristiaeth

Gofynnodd Liz Saville Roberts AS:-

 

·         Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i uwchraddio’r grid trydan er mwyn gwneud y gorau o gyfleoedd ynni a enwyd gan y Gweinidog?

Bydd angen ymestyn isadeiledd gwefru cerbydau trydan ar gyfer twristiaeth a fydd  yn ei dro angen grid â chapasiti uwch.

 

·         Beth yw rôl Cwmnïau Llywodraeth Cymru a sefydlwyd yn ddiweddar i fwrw ymlaen â gorsaf bŵer Trawsfynydd ar gyfer Adweithyddion Bach Modiwlaidd?

 

·         A fydd Llywodraeth Cymru yn helpu atyniadau economi ymwelwyr Rheilffordd Treftadaeth i gael gafael ar lo?

Mae’r Rheilffyrdd Treftadaeth yng Nghymru yn ased economaidd ymwelwyr sylweddol, gyda dau fath o reilffordd, cledrau cul (a adeiladwyd yn bwrpasol i gludo llechi a mwynau craig eraill i borthladdoedd a/neu ffatri toddi) a chledrau safonol, fel Rheilffordd Llangollen oedd yn rhan o’r rhwydwaith teithwyr cyn Beeching.  Mae’r rhyfel yn Wcráin wedi achosi prinder glo ar gyfer y rheilffyrdd stêm gan fod eu cyflenwad yn dod o ranbarth Donbas. Mae yna ofynion arbennig ar gyfer y glo sydd ei angen ar gyfer injans stêm.  Mae angen y lefel cywir o fitwmen. Mae yna Lofa yn Ne Cymru sydd yn gallu darparu glo sydd ei angen yn amodol ar gymorth (gan Lywodraeth Cymru) i fuddsoddi mewn darn o gyfarpar i brosesu’r glo i fodloni’r anghenion penodol i bweru’r trên stêm.

 

A fydd y Gweinidog yn siarad gyda chynrychiolwyr o Reilffyrdd Treftadaeth?

 

·         Beth sy’n digwydd gyda datblygu Maes Awyr Llanbedr?  A fydd yw gwaith o’i ddatblygu dal i gael ei arwain gan Ardal Fenter Eryri?

 

Dywedodd y GGC y bydd hi’n trafod y materion hyn gyda Vaughan Gething AoS, Gweinidog yr Economi a bydd naill ai GGC neu Weinidog yr Economi yn ysgrifennu at Liz Savile Roberts i ymateb.

 

Yna cafwyd trafodaeth yn y cyfarfod am bwysigrwydd Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru a’i drydaneiddio.  Dywedodd Ken Skates AoS:-

·         Mae Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb yn ddull o geisio buddsoddiad yn Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru er mwyn iddo allu delio â mwy o drenau cludo pobl a threnau nwyddau er mwyn lleihau traffig ar y ffyrdd.

·         Trafnidiaeth Cymru yw’r unig Gwmni Gweithredu Trenau i fynd yn ôl i amserlenni llawn cyn Covid.

 

Roedd yna drafodaeth ynglŷn ag arafwch y gwaith o adfer Gwasanaethau Avanti (Gogledd Cymru - Caer - Crewe - Euston Llundain).

 

Cytunodd y cyfarfod:-

·         Y dylai'r Grŵp wahodd Peter Hendy i ymuno â’r cyfarfod yn y dyfodol i drafod Adolygiad o Gysylltedd yr Undeb.

·         Dylai Gweinidog Gogledd Cymru ysgrifennu at Avanti yn eu cefnogi i adfer gwasanaeth i lefelau cyn Covid fel platfform ar gyfer gwelliant yn y dyfodol.

 

Dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru y bydd Pwyllgor Cabinet Gogledd Cymru nesaf yn cael ei gynnal ar 7 Gorffennaf 2022 ac fe ofynnir i Arweinwyr Cynghorau gyflwyno blaenoriaethau’r Cynghorau newydd.

 

Cynigiodd Chris Llywelyn i hwyluso’r adroddiad hwnnw a helpu Aelodau i ddod â’r wybodaeth ynghyd mewn un cyflwyniad gan y bydd yn cyfarfod y chwe Arweinydd yn fuan.   Bydd CLlLC yn parhau i hwyluso’r chwe Arweinydd o Ogledd Cymru sydd yn ymgysylltu gydag Aelodau Senedd a Phwyllgor Cabinet Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru/GGC.

 

Dywedodd Lee Robinson y byddai’n hoffi diweddaru’r Grŵp am gynnydd Metro Gogledd Cymru a buddsoddi yn isadeiledd y rheilffordd sydd ei angen i wella cysylltedd Gogledd Cymru i rwydwaith rheilffordd y DU.

 

Dywedodd Mabon ap Gwynfor y byddai’n hoffi’r Grŵp i drafod Tai yn cynnwys sut i ddefnyddio unedau gwag eto, digartrefedd ac ail gartrefi.